AC(4)2012(6) Papur 3 rhan 1

Dyddiad: 12 Gorffennaf 2012
Amser:
    10:30-12:30
Lleoliad:
  Swyddfa’r Llywydd
Enw’r awdur a rhif cyswllt:
    John Grimes, est 8225

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad

1.0    Diben a chrynodeb

1.1     Cyflwynir Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2012 i’r Comisiwn i’w nodi, yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor. Maent yn rhoi cyfrifoldeb ar y Pwyllgor i ddarparu “Adroddiad Blynyddol i’r Comisiwn a’r Swyddog Cyfrifyddu, wedi ei amseru i gynorthwyo’r broses o orffen y cyfrifon a’r Datganiad Llywodraethu, yn crynhoi ei gasgliadau ar y gwaith a wnaeth yn ystod y flwyddyn.”

1.2     Rôl y Pwyllgor yw cynnig cyngor a chefnogaeth i Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, ac i’w herio, mewn perthynas â’i chyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu, yn ogystal â rhoi sicrwydd i'r Comisiwn. O’r gwaith a wnaed a’r sicrwydd a ddarparwyd drwy gydol y flwyddyn, mae’r Pwyllgor Archwilio yn credu bod lefelau sicrwydd cyffredinol yn y Comisiwn yn dda, fel y cofnodwyd yn yr adroddiad.

2.0    Argymhellion

2.1     Gwahoddir y Comisiynwyr i nodi’r adroddiad blynyddol.